Amdanom ni
Ers ei ffurfio yn 1968, mae Cwmni Dawns Werin Caerdydd wedi dathlu a pherfformio dawnsiau gwerin, traddodiadau a cherddoriaeth Cymru.
Rydym wedi gweithredu fel llysgenhadon ar ran Cymru a’i diwylliant,
gan ddiddanu ac addysgu cynulleidfaoedd yng Nghymru â thu hwnt.
Enillwyd nifer o wobrau dros y blynyddoedd gan gynnwys y brif wobr
am ddawnsio gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol, enillwyd y wobr
ddiweddaraf yn 2012.
Bu’r Cwmni’n teithio’r byd a pherfformio mewn gwledydd megis Iwerddon, Yr Iseldiroedd, Yr Almaen, Llydaw, Gwlad Belg a Sbaen a hyd yn oed wedi teithio cyn belled ar Unol Daleithiau, Siapan a’r Wcráin. Yn 1983 cafodd cyfraniad y Cwmni i ddiwylliant gwerin Ewrop ei gydnabod pan ddyfarnwyd Gwobr Ewropa am gelfyddyd werin i’r Cwmni ym 1983, yr unig grŵp o Gymru i dderbyn yr anrhydedd hon.
Mae gan y Cwmni dros 40 o aelodau sy’n cwrdd yn wythnosol i ymarfer
a chymdeithasu yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg. Ymfalchiwn yn ein
traddodiad byw, amrywiol ac un sy’n dal i ddatblygu. Yn ogystal â
chadw a pherfformio dawnsiau a defodau hynafol, rydym yn dehongli a
chyfansoddi dawnsiau newydd.
Er 1977 mae’r Cwmni wedi trefnu gŵyl flynyddol o ddawnsio gwerin — Gŵyl Ifan — yng Nghaerdydd. Yn ogystal â dawnswyr o ledled Cymru cawn gwmni timoedd tramor sy’n perfformio eu traddodiadau eu hunain. Erbyn hyn mae nifer o’r timoedd hyn yn ffrindiau agos i ni.