Gŵyl Ifan

Gŵyl Ifan yw gŵyl flynyddol y Cwmni i ddathlu canol haf a Gŵyl Ifan, sef Mehefin 24. Cynhelir “Gorymdaith Fawr” drwy ganol Caerdydd gan godi’r Pawl Haf y tu allan i Neuadd y Ddinas ac ar ôl hynny bydd grwpiau’n dawnsio o gwmpas y ddinas yn ogystal ag ym Mae Caerdydd.

Daw pobl o ledled Cymru a thu hwnt i ddawnsio yn yr ŵyl.

Cynhaliwyd Gŵyl Ifan yn ddi-dor er 1977.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan yr ŵyl.