2014 hyd yma
Newyddion diweddar ar ein gweithgaredd eleni
Mis Awst
Perfformiwyd mewn arddangosfa hynod lwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ym mis Awst, gan ddawnsio ar lwyfan y Tŷ Gwerin a’r llwyfan arddangos mawr dan haul grasboeth. Daeth llwyth helaeth o’r cyhoedd i’n gweld a mwynhau’r sioe cynhwysfawr.
Mis Gorffennaf
Aethom ni i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne er mwyn cymryd rhan mewn y Diwrnod o Ddawns bendigedig (a thwym!) ynghŷd â thimoedd eraill ledled Cymru a thu hwnt. Mae’r achlysur hon bellach yn rhan bwysig o’n calendr blynyddol ac hoffwn ddiolch o galon i Bobbie a Dafydd Jones am drefnu diwrnod llwyddiannus arall.
Mis Mehefin
Uchafbwynt blwyddyn y CDWC ydy Gŵyl Ifan, tridiau o ddathlu canol yr haf. Yn ystod yr ŵyl, cynhalwyd twmpath cyhoeddus, gorymdaith trwy ganol ddinas Caerdydd ar ddydd Sadwrn cyn orffen y dathliadau gyda thaplas mawreddog. Cafwyd penwythnos ffantastig, yn enwedig gan fod ein tîm gwadd o’r Almaen, Volkstanzgruppe Frommern, ger Stuttgart, wedi diddanu pawb yn llwyr. Ceir rhagor o wybodaeth a lluniau ar wefan GI - www.gwylifan.org.
Mis Mai
Ym mis Mai, teithiwyd i dde Ffrainc am wythnos llawn cyffro. Tref bach a phrydferth yng nghysgod ardal fynyddog y Vercors ydy Villard de Lans lle, yn ystod y gaeaf, ceir llwyth o sgio ac hyd yn oed ar ddechrau’r haf roedd dal i fod eira dan draed. Derbyniwyd gwahoddiad i fynychu’r ŵyl leol gan ein ffrindiau yn nhîm La Piccoline a chafwyd croeso cynnes dros ben gan bawb.
Tra roeddem yno, cafwyd sawl cyfle i ymweld â’r atyniadau lleol, gan gynnwys yr ogofau cynhanesiol a’r cofeb i’r Resistance Ffrengig gerllaw. Perfformiwyd yng nghanol y dref yn eu sgwâr hyfryd yn ystod y dydd cyn cymryd rhan mewn cyngerdd ffurfiol gyda’r nos o flaen cyhoedd brwdfrydig a niferus. Ni chodwyd unrhyw dal am y gyngerdd; yn hytrach, gofynnwyd i bobl ddod â theisien neu gacen i’w mwynhau!
13/08/2014