Gwefan newydd a newyddion diweddar
Croeso mawr iawn i wefan newydd Cwmni Dawns Werin Caerdydd!! Rydyn ni’n gobeithio wnewch chi ddarganfod y gwybodaeth chi’n chwilio amdano ond cyswlltwch a ni am mwy o wybodaeth os oes rhaid!
Ar ôl methu a chyrraedd yn 2013 roedd yn dda unwaith eto ymweld a thafarn yr Hen Dŷ yn Llangynwyd, ger Maesteg i groesawu’r Flwyddyn Newydd yng nghwmi’r Fari Lwyd. Mae’r ddefod flynyddol hon yn rhoi pleser mawr i’r Cwmni yn ogystal â’r bobl hynny sy’n teithio o bell ac agos i weld y Fari yn ymweld â’r dafarn a chynnal y traddodiad unigryw hwn. Dyma’r unig le yng Nghymru lle mae’r traddodiad wedi parhau yn ddi-dor ac felly mae’n anrhydedd i ni fel Cwmni fynychu’r dafarn er mwyn bod yn rhan o’r traddodiad a chael croeso cynnes.
Pleser o’r mwyaf yw croesawi aelodau newydd a ddaeth i’r byd yn ystod y misoedd diwethaf:
- Isabelle, merch Esther a Rhys
- Megan Fflur, merch Dafydd a Siân
- Ifan Gomer, mab Elin Angharad a Rhodri
- Mia Elenna, merch Ruth ac Ian
Mae’r calendr am y misoedd nesaf yn brysur lenwi gydag ein perfformiad nesaf yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan ar 1af o Fawrth i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Yn dilyn hynny byddwn yn perfformio yng nghygerdd Nos Wener Y Cwlwm Celtaidd ar 7ed o Fawrth. Byddwn yn dawnsio a chodi’r Pawl Fai yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan dydd Llun 5ed o Fai i ddathlu Gŵyl Fai. Wedi hynny byddwn yn brysur yn paratoi ar gyfer taith fer i ddawnsio mewn gŵyl yn Ne Ffrainc.
Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd, felly dewch yn ôl atom yn fuan i ddarganfodd lle fyddwn yn perfformio nesaf!
18/02/2014