Dathliadau efeillio Caerdydd a Stuttgart

Dathliadau efeillio - Dawnswyr o Gaerdydd a Stuttgart yn dathlu 50 mlynedd o gyfeillgarwch

50 mlynedd yn ôl, sefydlwyd bartneriaeth gadarn rhwng brif ddinas Cymru a’r ddinas Almaeneg, Stuttgart, pan lofnodwyd y penderfyniad i efeillio’r ddwy ddinas ym 1955.

Yr wythnos hon, hanner canrif yn ddiweddarach, bydd cynrychiolwyr o’r ddwy ddinas yn cwrdd i ddathlu llwyddiant y bartneriaeth hon gyda gŵyl o ddawnsio gwerin.

Derbyniodd Cwmni Dawns Werin Caerdydd, tîm dawnsio gwerin swyddogol y brif ddinas, wahoddiad gan dîm dawnsio Stuttgarter Spielkreis i fynychu gŵyl gyffrous ar ddydd Sul y 10fed o Fai 2015. Bydd y Cymry’n perfformio amryw o ddawnsfeydd Cymreig mewn gwisg draddodiadol cyn cwrdd â maer Stuttgart i ddathlu’r cyfeillgarwch agos.

Mae’r timoedd dawnsio o Gymru a’r Almaen wedi bod yn agos ers dros 30 blynedd, ers i’r dawnswyr o Stuttgart ddod i Ŵyl Ifan yn 2005, yr ŵyl flynyddol sy’n dathlu codi’r pawl haf yng Nghaerdydd. Yn dilyn y traddodiad yma o gyfeillgarwch, bydd y Cymry eto’n aros gyda’r teuluoedd Almaeneg ac yn mwynhau’r croeso cynnes y cawn yn Stuttgart.

Meddai Enfys Dixey, Cadeirydd Pwyllgor Cwmni Dawns Werin Caerdydd, bod y Cwmni’n “hynod o gyffrous” am y cyfle yma i gynrychioli Caerdydd a thraddodiadau Cymreig yn Ewrop. Esboniodd: “Rydym wedi mwynhau cyfeillgarwch cryf gyda’r Almaenwyr dros y blynyddoedd ac roeddwn i’n teimlo ei fod hi’n hynod o bwysig, y flwyddyn hon yn enwedig, i bobl Caerdydd ymweld â phobl Stuttgart i ddathlu’r bartneriaeth rhwng y ddwy ddinas. Ac am ffordd hwylus o wneud, mewn gŵyl o ddawns! Rydym wrth ein boddau i rannu’n traddodiadau mewn cyd-destun mor bositif a chroesawgar.”

Bwriad Cwmni Dawns Werin Caerdydd ydy sicrhau bod cymaint o’n ffrindiau Almaeneg a phosib yn cymryd rhan yn ein dawnsfeydd twmpath, sef ffordd “ffantasig o gael pawb ar eu traed yn dathlu’n llon,” yn ôl Miss Dixey.

14/05/2015