Dawnsio Nadolig yng nghanol y Ddinas
Nos Iau, roedd dawnswyr Caerdydd yn diddanu trioglion y brif ddinas wrth iddynt orffen eu siopa Nadolig yng nghanol y dre
Cafwydd croeso cynnes i'r sawl dawns Nadoligaidd y perfformiwyd tu fas i Neuadd Dewi Sant, gyda nifer o aelodau'r cyhoedd yn eiddgar i ymuno gyda'r dathlu. Rhyw hanner awr o ddawnsio'n ddiweddarach, cafwyd croeso twym a blasus gan berchenogion y stondinau crefft a'r Bierkeller ar ol iddynt gynnig lluniaeth danteithiol i bob un o'r tim er mwyn dathlu'r wyl. Diolch o galon iddynt!
16/12/2015