Ymwelwir o ben bella'r byd

Ar nos Iau ar ddiwedd mis Medi 2016, croesawon ni tîm dawnsio gwerin o Awstralia i Gaerdydd.

Ar nos Iau ar ddiwedd mis Medi 2016, croesawon ni tîm dawnsio gwerin o Awstralia i Gaerdydd. Fel rhan o daith y grŵp Ceffyl Gwyn i Gymru, roedd y dawnswyr wedi ymweld â nifer o dimoedd Cymreig cyn cyrraedd y Stiwt yn Llandaf a’r twmpath hwylus roedden ni wedi trefnu i’w croesawu. Cafwyd sawl cyfle i berfformio dawnsfeydd cyfarwydd y Cymry gan fod band bendigedig wrth law, gydag aelodau’r grwpau lleol Penyfai a Gwerinwyr Gwent a oedd hefyd wedi ymuno gyda’r dathliadau.

Yn arwain y tîm o Awstralia oedd Ian Kendall, sef awdur y ddawns Pont y Bermo rhyw 30 blynedd yn ôl. Braint ydoedd i CDWC allu’i berfformio tra bod y cyfansoddwraig Rhiain Bebb yn cyfeilio – atgof arbennig iawn. Braf oedd eu gweld a’u diddanu.

4/11/2016