Diwrnod y Ddawns 2015

Cafwyd diwrnod o ddawnsio heb ei ail ar ddydd Sadwrn y 18fed o Orffennaf yn y Gerddi Botaneg ger Llanarthne, gyda chriw o aelodau CDWC yn cymryd rhan mewn dathliadau'r gŵyl Diwrnod o Ddawns.

Mae'r ŵyl flynyddol hon yn gwahodd dawnswyr o ledled Cymru, Prydain ac eleni roedd tîm wedi dod o Rwsia i roi flas rhyngwladol ar yr achlysur.

Yn dilyn gorymdaith mawreddog i ddechrau'r diwrnod, bu dawnsio ar y cyd ym mhlas canolog y gerddi am y sesiwn cyntaf. Wrth i'r haul ddisgleirio, daeth dorf brwd o'r cyhoedd i wylio a mwynhau'r cyngerdd o ddiwylliant o'u blaenau, gydag ambell un yn camu i mewn i'r dawnsfeydd twmpath yn llon.

Braint oedd cael dawnsio gyda chymaint o dimoedd eraill ac roedd tîm CDWC ar ei orau yn arddangos eu hoff dawnsfeydd, gan gynnwys y ddawns yr ysgrifenwyd i ddathlu 40fed penblwydd y Cwmni gyda Rhiain Bebb, y cyfansoddwraid yn ein plith.

Diolch i bawb a threfnodd y dydd ac edrychwn ymlaen yn frwd at y flwyddyn nesaf.

22/07/2015