Codi'r pawl a danwsio dros Gwyl Fai
Dros Galan Mai, buom yn dawnsio am dridiau yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan yng Nghaerdydd.
Dros Galan Mai, buom yn dawnsio am dridiau yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan yng Nghaerdydd. Roedd diddanu’r cyhoedd wrth berfformio dawnsfeydd traddodiadol megis Tŷ Coch Caerdydd, Gwenyn Gwent a Chlawdd Offa yn bleser llwyr i’r aelodau dewr y Cwmni a wnaeth gwynebu’r glaw dros benwythnos gŵyl y banc. Foddbynnag, yn amlwg uchafbwynt pob dydd oedd dawnsio Cylch y Cymry a Ffansi Ffarmwr gyda’r plant brwd a ddaeth i’n gwylio – mae digon o botensial yn y brifddinas i sicrhau dyfodol addawol iawn i ddatblygiad dawnsio gwerin!
Ar y dydd Sul (y cyntaf o Fai), roeddem wrth ein bodd bod y glaw wedi peidio a’r haul wedi penderfynu ymuno gyda ni wrth i ni godi’r pawl a’i addurno gyda rhubannau lliwgar. Bu canu’r bechgyn wrth gario’r pawl yn gyfeiliant llon i gampau Pwnsh a Siwan, wedi’i danlinellu gan dwmpath mawr ar laswellt Gwalia Sain Ffagan.
Roedd dawnsio eleni yn Sain Ffagan yn gyfle i bawb – boed yn ddawnswr profiadol, yn ddawnswraig newydd, neu’n aelod cefnogol o’r cyhoedd – i deimlo Rhythem y Ddawns.
9/05/2016