Dathlu Gŵyl Ifan llwyddianus yn 2015
Cafwyd penwythnos bendigedig yn dawnsio dros benwythnos Gŵyl Ifan ar 19-20 o Fehefin.
Mae Gŵyl Ifan yn dathliad flynyddol canol haf sy’n cael ei drefnu gan aelodau’r Cwmni. Y flwyddyn hon, a’r ŵyl yn dathlu 39 o flynyddoedd llwyddiannus, braint oedd cael croesawu tîm gwadd o Iwerddon i’n plith - Comhaltas Baile Núis o Newcestown, Corc.
Dechreuodd y penwythnos gyda thwmpath yng ngwesty’r Angel ar nos Wener y 19eg. Roedd yn braf ymuno yn y dawnsio cymdeithasol gyda rhai o dimoedd eraill Cymru megis Dawnswyr Môn, Twrch Trwyth, Pen-y-Fai a Gwerinwyr Gwent, yn ogystal â’r cyhoedd a’r Gwyddelod wrth gwrs! Fe wnaeth y band a’r galwyr weithio’n hynod o galed fel arfer a chafwyd perfformiad gwych gan dîm Comhaltas - cymysgedd o ddawnsio, cerddoriaeth fywiog a chanu. Cafwyd perfformiad gwych hefyd gan Gôr Meibion Taf - diolch yn fawr i’r côr am ymuno gyda ni a’n diddanu gyda rhai o glasuron gorau Cymru.
Ar ddydd Sadwrn y 20fed, dechreuodd y diwrnod gyda rhywbeth go wahanol i’r arfer - bws dŵr o ganol y dref i Fae Caerdydd i’r dawnswyr a’r cerddorion i gyd…o ie, a’r pawl haf hefyd! Diolch byth roedd yr haul yn tywynnu ac fe gyrhaeddodd y pawl yn saff i’r Bae. Glaniodd dros 100 ohonom yno i ddilyn y pawl a gorymdeithio drwy Gei’r Forwyn tuag at Plass Roald Dahl a cherflun Ivor Novello - am olygfa fendigedig gyda phawb yn eu gwisgoedd a’u baneri!
Ar ôl cyrraedd y cerflun tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru, dechreuodd y busnes difrifol o godi’r pawl - dawns Cadi Ha gan gynnwys Pwnsh a Siwan, yna gwisgo’r pawl gyda rhubanau lliwgar cyn ei chodi i’w lle, a chroesawu’r haf i Gaerdydd o’r diwedd!
Rhannodd y dawnswyr fewn i ddau grŵp er mwyn gallu diddanu’r llu o gyhoedd oedd o gwmpas y lle - rhai yn crwydro draw i Landsea, eraill yn dawnsio o flaen adeilad y Pierhead, cyn uno unwaith eto i ddawnsio ym Mhlass Roald Dahl. Cafodd pawb oedd yn y Bae'r diwrnod hwnnw (gan gynnwys y rheiny oedd yno i weld y cychod hwylio!) gyfle i gael blas o ddawnsfeydd Cymreig a Gwyddelig, ag hyd yn oed ymuno!
Ond nid dyna ddiwedd arni - o na, newid cyflym i’r dawnswyr a’r cerddorion cyn dechrau’r Taplas gyda’r nos, yn ôl yng ngwesty’r Angel. Dyma gyfle i’r dawnswyr wledda a gwisgo amryw o wisgoedd gwahanol, yn ogystal â chyd-ddawnsio unwaith eto - gan gynnwys dawns Gŵyl Ifan wrth gwrs! Diolch i’r galwyr a’r band unwaith eto am weithio’n galed trwy’r nôs - hebddyn nhw fyse’n amhosib i ni allu joio ar y llawr ddawnsio!
Erbyn y dydd Sul roedd pawb wedi blino rywfaint ag ar ôl dweud hwyl fawr i’n ffrindiau o Iwerddon, roedd yn amser dod a’r ŵyl i ben am flwyddyn arall.
Diolch enfawr i bawb wnaeth helpu i drefnu’r ŵyl y flwyddyn hon, ag edrychwn ymlaen ag ernes at 2016 - carreg milltir enfawr gan mai hon fydd y 40fed ŵyl ac mae’r cynllunio wedi dechrau yn barod!
Cofiwch, os hoffech chi fod yn rhan o’r ŵyl nesa, cysylltwch â ni! Falle eich bod chi wedi bod blynyddoedd yn ôl neu falle eich bod chi byth wedi clywed am Ŵyl Ifan o’r blaen - mae ‘na chroeso cynnes i chi ymuno â ni i greu'r ŵyl ore fu erioed yn 2016.
22/07/2015