Traddodiadau

Er mai dawnsio gwerin yw prif reswm am fodolaeth y Cwmni, rydym wedi atgyfodi a dehongli nifer o draddodiadau Cymru gan gynnwys y Fari Lwyd, Hela’r Dryw, Y ‘Rappers’ a’r Ddrama Werin.

Dawnsiau

Canrifoedd yn ôl roedd dawnsio gwerin yn boblogaidd ledled Cymru. Fodd bynnag o ganlyniad i ddylanwad yr Anghydffurfwyr, a oedd yn ystyried dawnsio yn bechod, daeth yr arfer i ben yn ystod y 18ed a’r 19eg ganrif.

Yn 20au’r ganrif ddiwethaf atgyfodwyd y diddordeb mewn dawnsio gwerin drwy ymdrechion yr Urdd. Sefydlwyd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yn 1949 i hyrwyddo ac atgyfodi’r hen ddawnsiau a chreu rhai newydd.

Erbyn heddiw, o ganlyniad i gystadlaethau a gwyliau, mae dawnsio gwerin wedi datblygu i fod yn rhan fywiog a lliwgar o ddiwylliant Cymru.

Gwisgoedd

Mae’r gwisgoedd a wisgir gan y dawnswyr yn elfen bwysig o ddawnsio gwerin. Rydym wedi gwneud defnydd helaeth o gasgliad gwisgoedd a chyngor staff Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

Mae ein prif wisg wedi ei seilio ar ddillad a wisgwyd gan y werin bobl yn Ne Cymru ar ddechrau’r 19eg ganrif.

Mae gwisg y merched yn cynnwys betgwn a phais (sgert) wedi eu gwneud o frethyn traddodiadol Cymru. Mae blows wen gyda choler llydan sy’n rhoi’r argraff o siôl, ffedog wen a boned yn cwblhau’r wisg.

Efallai mai’r rhan fwyaf nodweddiadol o’r wisg Gymreig yw’r het uchel. Cynhyrchwyd hetiau ar gyfer y cwmni sydd wedi eu seilio ar enghraifft o 1850 a welwyd yng nghasgliad yr Amgueddfa Werin.

Mae’r dynion yn gwisgo llodrau du, crys gwyn a wasgod frethyn ddu o’r un cyfnod.

Defnyddir gwisgoedd eraill ar gyfer dawnsiau penodol, er enghraifft mae gennym gasgliad o siolau Cymreig gwreiddiol o’r 19eg ganrif a ddefnyddir ar gyfer y ddawns llys “Meillionnen”.

Cerddoriaeth

Mae cerddoriaeth addas yn elfen hanfodol o’r ddawns werin, ac mae gennym gyfoeth o alawon traddodiadol yng Nghymru. Fel arfer ceir alaw benodol i bob dawns a weithiau ychwanegir ail alaw neu gyfalaw er mwyn cael amrywiaeth. Mae gennym ystod eang o alawon o fewn ein repertoire sydd wedi eu plethu’n ofalus ar gyfer y dawnsiau.

Yn ogystal ag alawon o hen gasgliadau cerddoriaeth a llawysgrifau rydym hefyd yn defnyddio alawon newydd â gyfansoddwyd yn benodol ar gyfer dawnsiau mwy diweddar. Mae’r alawon newydd wedi eu seilio ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru.

Mae ein band o gerddorion profiadol yn meddu ar y ddawn o greu naws briodol i’r dawnsiau, boed lys, ffair neu dwmpath.

Ymysg yr ystod o offerynnau y mae’r ffidil, ffliwt, basgrwth, acordion, tabwrdd a’r delyn deires Gymreig. Hyrwyddwyd y defnydd o’r delyn deires ar gyfer dawnsfeydd Llys Llanofer yng Ngwent gan Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, yn y 19eg ganrif.

Yn aml bydd ein rhaglenni yn cynnwys eitemau cerddorol sy’n ychwanegu amrywiaeth i’r rhaglen ac yn rhoi seibiant i’r dawnswyr.

Y Fari Lwyd

Mae’r Fari Lwyd wedi ei chreu o benglog ceffyl wedi ei osod ar bolyn a’i orchuddio a chanfas wedi ei addurno â rhubanau. Mae criw o ddynion yn cario’r Fari o dŷ i dŷ gan alw mewn ambell dafarn hefyd. Y bwriad yw cael mynediad i ymuno â dathliadau’r ‘Gwyliau’. Byddai’n arferiad i ganu penillion sef ‘Pwnco’ er mwyn cael mynediad.

Hela'r Dryw

Drwy bach ydyw’r gŵr, amdano mae stwr,
Mae cwest arno fe, nos heno ‘mhob lle.

Dyma’r geiriau a genir wrth gynnal defod Hela’r Dryw. Ar ôl hela a dal y dryw byddai’r dynion yn rhoi’r aderyn yn Nhŷ’r Dryw, sef blwch wedi ei addurno â rhubanau, a’i gario o dŷ i dŷ. Byddai pobl yn ystyried derbyn plu wedi eu tynnu o gorff y dryw yn lwcus iawn.

Rappers

Benthycwyd y ddawns hon sy’n defnyddio cleddyfau o Ogledd Lloegr ond mae bellach yn rhan o draddodiad y Cwmni. Roedd y ‘rapper’ yn arf a ddefnyddir i grafu’r llwch glo o gefnau’r ceffylau a weithiau yn y pyllau glo. Mae’n enghraifft o arf amaethyddol yn cael ei addasu at ddibenion diwidiannol.

Y Ddrama Werin

Casglwyd y ddrama werin ym mhentref Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg. Cafodd ei haddasu cryn dipyn dros y blynyddoedd ac mae wedi bod yn rhan o draddodiad y fro ers sawl canrif.